Dydd Sadwrn 31ain Awst

 

Teithiau Tywys

  • Taith o amgylch Tref Corwen
  • Bryngaer Caer Drewyn
  • Pen y Pigyn
  • Neuadd Liberty trwy Ben y Pigyn ac yn ôl trwy Gynwyd
  • Llwybr Gogledd y Berwyn (dechrau o Langollen)
  • Taith Eglwysi a Chapeli – codir tâl mynediad o £2.55
  • Taith Hanesyddol Ystad y Rug
  • Moel Fferna trwy Gynwyd ac i lawr i Garrog
  • Moel Fferna trwy Gynwyd ac i lawr i Lyndyfrdwy
  • Taith Chwilio am Goed
  • Taith Llwybr Brenig (taith wedi’i rhannu yn ddeuddydd)
  • Taith Gro Isa i deuluoedd
  • Cerdded Ceunentydd - £35 y pen
  • Llwybr Ogleddol Glyndŵr
  • Taith Ogofâu - £49 i oedolion a £39 i bobl ifanc
  • Taith Crib y Berwyn o Bistyll Rhaeadr ac yn ôl i Gorwen
  • Cadair Bronwen
  • Taith Nordig

Gweld vr holl Deithiau >>

Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn derbyn taflen yn dangos llwybr eu taith, ynghyd â map yn dangos y teithiau o amgylch Corwen. Byddwch yn derbyn bathodyn a thystysgrif ar ôl cwblhau’r daith a bydd crysau-T ar gael i gofio am y diwrnod.

Bydd y rhan fwyaf o’r teithiau yn dechrau am 9.30am, ac eithrio teithiau 16 a 18 a fydd yn dechrau am 9.00 am gan fod angen teithio rhywfaint i gyrraedd man dechrau’r daith.

Bydd y teithiau a gynhelir tair gwaith y diwrnod yn dechrau am 9.30 am, 2.00 pm a 4.00 pm.

Bydd y teithiau a gynhelir ddwywaith y diwrnod yn dechrau am 9.30 am a 2.00 pm.

Bydd Cwmni Awyr Agored Cotswold ar y safle yn ystod y penwythnos, felly ar ôl gorffen eich taith bydd cyfle i chi gael cip ar eu hamrywiaeth eang o ddillad a chyfarpar.

Darlithoedd Sgiliau

  • Sgiliau Map a Chwmpawd a Chyfeiriannu Sylfaenol.
  • Stofiau, Coginio a Phrydau ar gyfer Cerddwyr.


Sioe Ffasiwn Dillad Awyr Agored

Am 6.00pm, nos Sadwrn, 31ain Awst, byddwn yn cynnal sioe ffasiwn dillad awyr agored ym maes parcio’r Pafiliwn Chwaraeon. Mae’r digwyddiad hwn am ddim a bydd tocynnau ar gael ar fore’r 31ain Awst.

Corwen Cerdded Festival Noddwyr a Chefnogwyr