Croeso Cynnes i Gerddwyr

Yn 2012, enillodd Corwen Wobr Croesawu Cerddwyr ac rydym yn awr yn cydweithio â busnesau yng Nghorwen i sicrhau bod cerddwyr yn cael y profiad gorau posibl wrth ymweld â Chorwen. Rydym hefyd yn cydweithio â Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych i sicrhau bod y llwybrau cerdded yn cael eu cynnal a’u datblygu.

Yn ogystal â’r llwybrau cerdded a llwybrau ceffyl, mae gan Gorwen lwybrau cerdded eraill sydd wedi’u harwyddo a’u cynnal yn dda ac sy’n hawdd eu cyrraedd o’r Dref. Mae pob un o’r teithiau hyn yn rhan o raglen yr Ŵyl Gerdded. Dyma brif lwybrau cerdded Corwen.

Saif tref Corwen mewn lleoliad arbennig yng nghysgod Crib Mynydd y Berwyn, ac mae teithiau cerdded o’r dref yn eich arwain i Neuadd Liberty ac ymlaen i’r pwynt uchaf yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Dyfrdwy a Bryniau Clwyd, sef Moel Fferna sy’n 630 medr o uchder. Ar ben y grib, mae copaon Cadair Bronwen (784m), Cadair Berwyn (827m) a Moel Sych (827m). Mae Corwen felly yn ganolbwynt gwerth chweil ar gyfer cerdded y gadwyn fendigedig hon o fynyddoedd. Mae cyfanswm o bedair copa ar hugain sydd dros 600 medr o uchder ym Mynyddoedd y Berwyn.

Neuadd Liberty
Moel Fferna
Cadair Bronwen
Cadair Berwyn
Moel Sych

Gyda’r holl gaffis, bwytai, gwestai, gwestai gwely a brecwast, parciau carafanau a gwersylloedd gerllaw, ynghyd â rhai o deithiau cerdded gorau’r wlad, gallwn eich sicrhau y bydd y croeso a’r golygfeydd yn eich denu yn ôl i Gorwen dro ar ôl tro.