Croeso i Ŵyl Gerdded Corwen 2015

Bydd Gŵyl Gerdded Corwen yn cael ei chynnal dros y penwythnos 5ain - 7ain Medi 2015. Mae Corwen yn le delfrydol ar gyfer y math hwn o ddigwyddiad ac yn ganolfan wych i gerddwyr brwd gan fod nifer o deithiau cerdded yn arwain o’r dref sy’n addas i bawb. Gallwch ddilyn taith hanesyddol o amgylch tref Corwen ei hun neu gerdded ar grib uchel y Berwyn sydd dros 800 medr o uchder. Mae Gŵyl Gerdded Corwen yn cynnig rhywbeth at ddant pawb. Byddwn yn cynnal teithiau tywys yn ystod y penwythnos a bydd cyfle i chi fynd ar daith hir am ddiwrnod cyfan neu ddewis teithiau cerdded byr - un taith yn y bore ac un arall yn y prynhawn.

Rydym hefyd yn cynnal darlithoedd sgiliau yn ystod y dydd a bydd adloniant ar gael gyda’r nos. Bydd Cwmni Awyr Agored Cotswold ar y safle hefyd. Mae cyfle i chi ddod draw felly i weld yr holl ddigwyddiadau yn y dref, gwrando ar sgwrs sgiliau a chael golwg ar y cyfarpar awyr agored.

Mae’r ardal o amgylch Corwen yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ac mae’r golygfeydd godidog i’w gweld yn glir hyd yn oed o brif faes parcio’r dref. Edrychwch i fyny ac fe welwch fryngaer Caer Drewyn yn cadw llygad ar y dref. Mae Corwen wedi’i lleoli ar ffordd yr A5 ym mhen pellaf Dyffryn Dyfrdwy, ardal sy’n adnabyddus am ei harddwch a mawredd.

Diolch i nawdd hael gan Gadwyn Clwyd (Yr Asiantaeth Datblygu Gwledig) a Chyngor Sir Ddinbych, ynghyd â Chymdeithas Fusnes Corwen a’r Cylch, bydd mwyafrif atyniadau Gŵyl Gerdded Corwen 2013 yn rhad ac am ddim. Codir tâl mynediad bychan i’r Eglwysi ac ar gyfer y teithiau cerdded arbenigol ar hyd y ceunentydd ac ogofâu.

Corwen Cerdded Festival Noddwyr a Chefnogwyr